Rhif y ddeiseb: P-06-1510

Teitl y ddeiseb: Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau.

Geiriad y ddeiseb:  

Mae Safle Tirlenwi’r Hafod wedi achosi gofid yn y gymuned ers 18 mlynedd, felly dyma’r ymgyrch amgylcheddol hiraf yng Nghymru. Er gwaethaf ymdrechion gan y trigolion a chynrychiolwyr etholedig, mae'r safle yn parhau i ollwng arogleuon niweidiol, ac mae’n creu niwsans statudol annerbyniol. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd, ac mae wedi methu â chymryd camau gorfodi ystyrlon, gan ddibynnu yn lle hynny ar gyfiawnhad technegol a sicrwydd amwys. Nid diffyg rheoleiddio yn unig yw hyn, ond methiant i lywodraethu.

Yn 2024, cyrhaeddodd yr arogl a'r llygredd aer lefelau gofidus ac argyfyngus. Nid oedd teuluoedd yn gallu agor eu ffenestri, a gorfodwyd y plant i chwarae dan do. Os yw fframwaith rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu i safle ollwng arogleuon hynod bwerus a chyson er eu bod yn parhau i gydymffurfio, yna mae’n amlwg nad yw’r rheoliadau yn addas i’r diben. Roedd eu Harolwg eu hunain diwethaf yn nodi methiannau allweddol fel injan nwy anweithredol, a oedd yn cynyddu’r nwyon tirlenwi a gâi eu rhyddhau. Capio dros dro ar gelloedd tirlenwi nad ydynt yn cynnwys yr arogleuon. Gollyngiadau cyson o fannau lluosog ar y safle. Oedi wrth uwchraddio’r seilwaith, sy’n arwain at fod y safle yn agored i ormod o allyriadau. Ym mis Mai 2020, dechreuodd tân sylweddol, a oedd yn llosgi am sawl diwrnod ac yn cynhyrchu mwg du trwchus. Cofnododd Cyfoeth Naturiol Cymru lefelau llygredd aer oedd 14 gwaith yn uwch na’r lefel a ganiateir. Os na all Cyfoeth Naturiol Cymru ddwyn Enovert i gyfrif, a’i fod wedi methu â gwneud hynny mewn 18 mlynedd, yna mae angen ymchwiliad annibynnol i’w effeithiolrwydd fel corff rheoleiddio ar frys.

 


1.        Cefndir

Cafodd Mersey Waste Holdings ganiatâd i weithredu hen safle chwarel yr Hafod fel safle tirlenwi yn 2004 yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus. Roedd Cyngor Wrecsam wedi gwrthod cais y cwmni yn flaenorol. Ers mis Tachwedd 2008, mae wedi cael ei weithredu gan Enovert North Ltd. (Cory Environmental Limited gynt). Mae’r safle tirlenwi yn gweithredu o dan drwydded amgylcheddol (PP3139GB) a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio safleoedd gwastraff yn unol â’i egwyddorion rheoleiddio.

Mewn diweddariad cylchlythyr ym mis Chwefror 2025, esboniodd Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ba amgylchiadau y gall ddirymu trwydded amgylcheddol:

Mae safle tirlenwi yr Hafod yn gweithredu o dan drwydded amgylcheddol, sy’n nodi’r mathau a’r symiau o wastraff y gellir eu derbyn ar y safle. Nid yw’r rheoliadau trwyddedu yn caniatáu i ni gyfyngu ar ffynonellau’r gwastraff.

Dim ond os credwn fod y gwaith yn peri risg difrifol i’r amgylchedd neu iechyd pobl y byddwn yn dirymu trwyddedau, ac os yw pob ymgais arall i leihau’r arogl wedi’i dihysbyddu. Ar hyn o bryd, mae’r gweithredwyr yn dal i weithio drwy nifer o gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion, ac rydym yn eu rheoleiddio’n graff.

Ni fyddai cau’r safle yn cael gwared ar yr arogleuon ar unwaith, gan y byddai angen rheoli trwytholch a nwy tirlenwi o hyd i leihau’r posibilrwydd o arogleuon oddi ar y safle.

Mae ein camau rheoleiddio yn cael eu harwain gan ein hegwyddorion rheoleiddio cyhoeddedig, gan sicrhau dull cytbwys a rhagweithiol.

Cafodd adroddiad cydymffurfio diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer safle tirlenwi’r Hafod ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2025, ac mae'n manylu ar 5 achos o ddiffyg cydymffurfio ag amodau trwydded amgylcheddol. Roedd y rhain yn ymwneud â rheoli trwytholch, nwy tirlenwi, monitro clorid, a monitro dŵr wyneb. Roedd 26 achos o allyriadau methan tirlenwi yn fwy na’r swm a ganiateir yn ystod chwarter olaf 2024.

Mae tudalen we Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu ei gamau rheoleiddio parhaus ar gyfer y safle, gan gynnwys:

§    archwiliadau safle rheolaidd;

§    adolygu gweithdrefnau rheoli a chynlluniau gweithredu Enover; a

§    gweithio gyda Chyngor Wrecsam i sicrhau bod monitro ansawdd aer yn bodloni safonau Llywodraeth Cymru.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod wedi dweud wrth Enovert i gymryd camau i leihau allyriadau sy’n gollwng o’r safle yn y tymor hwy ar ddiwedd 2024. Dywed ei ddiweddariad ym mis Mawrth 2025 fod Enovert wedi gosod seilwaith newydd i gynyddu faint o nwy sy’n cael ei gasglu o’r safle, ac y bydd rhagor o offer monitro ansawdd aer yn cael eu gosod yn y dyfodol agos. O ran allyriadau arogl i ardaloedd preswyl, mae’n dweud:

O dan amodau'r Drwydded Amgylcheddol, os yw’r gweithredwr yn cymryd mesurau priodol i reoli arogl, nid oes toriad ar y drwydded yn digwydd, hyd yn oed os oes rhywfaint o arogl yn parhau. Mae gweithredwr y safle wedi nodi mesurau priodol yn eu cynllun rheoli arogl i allyriadau; fodd bynnag, rydym yn deall bod effaith yn parhau i fod ar y gymuned. Rydym yn adolygu eu cynllun yn fanwl i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau ychwanegol i liniaru arogleuon ymhellach.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at Grŵp Rhanddeiliaid Safle Tirlenwi yr Hafod, a gafodd ei gyfarfod cyntaf ar 21 Mawrth 2025.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Yn ei ymateb i’r ddeiseb, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yn dweud ei fod wedi cyfarfod â swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ac uwch-reolwyr Enovert i drafod safle tirlenwi’r Hafod ar 19 Mawrth 2025. Mae’n dweud bod materion y safle yn rhai rheoleiddiol a gweithredol, felly mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd y sefyllfa orau i benderfynu ar y camau rheoleiddio priodol, ac felly dywed nad yw’n teimlo bod angen cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Ar 14 Ionawr 2025, gofynnodd Gareth Davies AS i’r Trefnydd am ddatganiad yn gysylltiedig â’r safle, gan godi pryderon etholwyr ynghylch llawer iawn o wastraff sy’n dod o Loegr. Gofynnodd i’r Ysgrifennydd Cabinet:

…amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol yn Lloegr i sicrhau nad oes rhaid i drigolion y gogledd dalu am fethiannau awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin Lloegr? 

Ymatebodd y Trefnydd, Jane Hutt AS:

Rydych wedi codi cwestiwn a mater penodol iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Dirprwy Brif Weinidog, a bydd yn dod o hyd i ffordd briodol o ymateb i hwnnw. Diolch am ei godi.

Ar 28 Ionawr 2025, gofynnodd Mark Isherwood AS i’r Trefnydd am ddatganiad ar safle tirlenwi yr Hafod, gan gyfeirio cwynion etholwyr Johnstown am ddrewdod a’r “diffyg gweithredu amlwg ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru i atal hwnnw”. Dywedodd y Trefnydd y bydd y pwynt yn cael ei gofnodi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Ar 10 Mehefin 2020, yn dilyn tân yn y safle tirlenwi, gofynnodd Llyr Gruffydd AS i’r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford AS, am ymchwiliad annibynnol i achos y tân ac i gau’r safle tirlenwi yn y cyfamser. Dywedodd y Prif Weinidog fod gan nifer o awdurdodau gyfrifoldebau i ddarparu adroddiadau am y tân, a “bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiadau hynny ac yna'n penderfynu pa gamau pellach y gallai fod eu hangen.”

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.